Navigation



Philosophy & Ethos

 Dalier sylw, nid yw'r tudalenau i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae pob Uned a Gwasanaeth a ddarperir gan Wasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe yn rhannu system gred sy’n sail i agwedd Therapiwtig tuag at ofalu am blant a phobl ifanc. Mae gyda ni agwedd sydd, yn y diwedd, yn gadarnhaol gydag ymrwymiad cadarn i Dyfiant a Newid.

Cwrdd ag Anghenion Sylfaenol

Picture of Abraham Maslow
Abraham Maslow
Credwn fod angen ar bob plentyn a pherson ifanc, yn arbennig os bydd wedi cael bywyd cythryblus, lefel uchel o ofal magwrol, yn anad dim. Rhaid cwrdd â’u hanghenion sylfaenol i’r safon uchaf. Mae hyn yn cynnwys darparu llety sy’n ategu awyrgylch cynnes a chartrefol; a sicrhau eu bod yn cael dillad a bwyd da. Rhaid talu sylw mawr i’w lles corfforol. Ymhellach, ceisiwn ddarparu cyfle i blant a phobl ifanc gael bywyd strwythuredig o fewn awyrgylch sy’n adlewyrchu’r gred fod gan bob person hawl i deimlo ei fod yn bwysig ac yn cael ei werthfawrogi. Credwn fod angen gofal ymarferol yn ogystal â gofal emosiynol er mwyn cyflawni hyn.

Parch Cadarnhaol Diamod a’r Perthynas Therapiwtig

Picture of Carl Rogers
Carl Rogers
Mae gan bawb, ar sail eu dynoliaeth yn unig, hawl i barch, urddas, a thriniaeth deg. Felly, mae gan bob plentyn a pherson ifanc, beth bynnag ei gefndir, a beth bynnag mae wedi’i wneud, hawl i’r fath urddas a pharch. Dyma sail perthynas therapiwtig, ac ni ddylid ei ddisodli dan unrhyw amgylchiadau. Rhaid i blant a phobl ifanc deimlo fod eu perthynas gyda’r oedolion sy'n gofalu amdanynt yn ‘ddiffuant’ yn hytrach nag ‘artiffisial’. Rhaid i berthynas felly gael ei seilio ar ddiffuantrwydd a gonestrwydd. Llwyddiant yn y perthynas sy’n hwyluso proses Newid a Thyfu. Rhaid i ofalwyr llwyddiannus felly fod yn gyson, gonest, agored, a dibynadwy. Y perthynas yw prif elfen y therapi.

Perchen ar eich Gweithredoedd a Chymryd Cyfrifoldeb

I unrhyw blentyn neu berson ifanc symud ymlaen yn ei fywyd, a thyfu i fod yn oedolyn effeithiol a llwyddiannus, rhaid i’r broses newid gynnwys datblygu cyfrifoldeb. Mae angen iddynt ddysgu sut mae eu gweithredoedd yn effeithio ar deimladau pobl eraill. ‘Rydym ni felly yn rhoi pwyslais mawr ar weithio drwy’r broses o wadu a beio sydd mor aml yn nodweddiadol o blentyn wedi’i niweidio gyda hunan-barch isel neu wyrgam. Mae helpu plant a phobl ifanc i deimlo’n ddiogel, a minimeiddio’r dewisiadau a phenderfyniadau gwael maent yn eu gwneud yn elfen hanfodol o’n gwaith.

Gwasanaeth ar Sail Angen

Deallwn y pwysigrwydd o gychwyn ein gwaith o’r pwynt mae’r plentyn neu berson ifanc wedi cyrraedd yn ei fywyd. Credwn mai ein cryfder mwyaf yw cynnig ystod o wasanaethau ymgyfnewidiol. Asesir anghenion penodol pob unigolyn. Mae’r gofal yn cael ei strwythuro a’i gynllunio i gwrdd â’r anghenion hyn. Gan fod anghenion yn newid dros amser, rhaid i’r gofal sy’n cael ei gynnig adlewyrchu’r fath newidiadau. Ar ben hynny, mae diffuantrwydd yn golygu fod yn rhaid seilio perthynas ar werth cynhenid yr unigolyn.

Seicotherapi a Chynghori

Er iddo gael ei ystyried fel rhywbeth sy’n ategu yn hytrach na disodli gwaith therapiwtig ym mhroses bywyd dydd-i-ddydd y plentyn neu’r person ifanc, mae seicotherapi unigol yn cael ei ddarparu fel bo’n addas fel rhan bwysig o adferiad a thyfiant. Mae gan bob therapydd Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe y cymwysterau priodol. Cynigir therapi grŵp a chreadigol hefyd i blant a phobl ifanc.

Mae staff arbenigol o ystod o gefndiroedd proffesiynol, gan gynnwys seicotherapi trawsbersonol, therapi celf, therapi drama, a therapi chwarae, yn gweithio gyda’r plant a’r bobl ifanc. Gellir defnyddio Therapi Ymddygiad Gwybyddol a Seiciatreg hefyd fel bo’n addas. Ar draws ein gwasanaeth, mae mewnbwn therapiwtig wedi’i integreiddio gydag ethos pob cartref. Rhoddir cyfle i bob plentyn a pherson ifanc gymryd rhan mewn sesiynau therapi rheolaidd.

Egwyddorion Damcaniaethol

Mae Athroniaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe wedi’i seilio ar egwyddorion ffenomenolegol, ac yn tynnu’n helaeth ar waith Carl Rogers ac Abraham Maslow, a damcaniaethau cyffredinol Cynghori Canolbwyntio ar y Person.

Rhagdybiaethau

Mae damcaniaeth canolbwyntio ar y person yn pwysleisio pwysigrwydd hunan-gysyniad goddrychol yr unigolyn. Cynnwys hyn yw’r dulliau yr ydym yn ein canfod a’n diffinio’n hunain. Realiti i bawb yw’r hyn yr ydym yn ei ganfod. Mae pob unigolyn yn gynhenid yn Dda ac yn Effeithiol. Dyma hanfod hunan yr organeb (neu’r hunan ‘gwirioneddol’). Mae gan bob organeb anghenion ffisiolegol, diogelwch, cariad, perthyn a hunan-barch. Yn gynhenid i bob organeb, y mae tueddiad hunan-wireddu, sy’n gweithredu fel cymhelliad i gynnal a gwella’n hunain. Mae gennym ni i gyd y gallu cynhenid ar gyfer Tyfiant a Newid.

Caffael Credau

Bron o ddyddiad ein geni, yr ydym yn datblygu hunan-gysyniad. Mae hyn yn system o gredau am ein hunan ac am ba fath o berson yr ydym. O blentyndod cynnar, yr ydym yn darganfod fod gwahaniaethau rhwng y ffordd mae eraill yn ein gweld a’r ffordd yr ydym yn ein gweld ein hunain. Mae cymeradwyaeth a pharch yn dod i ddibynnu ar ddisgwyliadau pobl eraill ohonom ni. Mae hyn yn effeithio ar ein hunan-gysyniad, ac yr ydym yn dysgu newid ein canfyddiad o’n hunan (ein ‘hunan gwirioneddol’) i gyfateb i’r hunan a ganfyddir gan eraill yn y byd go iawn (yr ‘hunan go iawn’). Mae’r ‘hunan go iawn’ hwn yn gweithredu fel ‘hunan ffug’, wedi’i ddatgysylltu o’n hunan ‘gwirioneddol’ Da ac Effeithiol. Gelwir hyn yn anghydweddiad, rhywbeth nad oes llawer o ddealltwriaeth ohono. Y mwyaf y mae ein perthnasoedd yn ddibynnol, y mwyaf mae'r anghydweddiad a datgysylltiad o'n hunan 'gwirioneddol'. Ymhellach, mae’r tueddiad hunan-wireddu sydd gennym ni i gyd yn gweithredu ar yr hunan ffug yn hytrach nag ar yr hunan ‘gwirioneddol’. Felly yr ydym yn cael ein gyrru i ffwrdd o, yn hytrach na thuag at, ein hunan da ac effeithiol cynhenid.

Mae cynnal hunan-barch yn angen dynol sylfaenol. Mae hunan-barch anghydweddol yn seiliedig ar wireddu’n llwyddiannus hunan-gysyniadau. Golyga hyn nad yw hunan-barch o reidrwydd yn isel neu’n absennol, hyd yn oed pan fydd ymddygiad ac affaith yn gythryblus. Fodd bynnag, mae hunan-barch wedi’i seilio ar ganfyddiad ffug o’r hunan.

Amcanion

Amcanion Dyneiddiol am Fywyd Therapiwtig yw:

  • Bod yn agored i Brofiad
  • Rhesymoledd
  • Cyfrifoldeb Personol
  • Hunan-barch
  • Gallu er Daioni
  • Bywyd Moesegol

 

Newid a Thyfiant

Trwy ddatblygu Cydweddiad, gellir cyflawni’r broses Newid a Thyfiant. Mae hyn yn digwydd pan fydd yr hunan yn profi parch cadarnhaol ac empathi di amod. Mae hyn yn herio canfyddiadau ffug blaenorol am yr hunan, gan ein galluogi i ail-ddarganfod ein hunan ‘gwirioneddol’ Da ac Effeithiol. Ni all y fath her i hunan-ganfyddiad ffug ddigwydd ond mewn perthynas sy’n seiliedig ar Ddiamodrwydd, Gonestrwydd, a Diffuantrwydd; a phan mae'r holl anghenion yn cael eu bodloni. Mae angen ‘arall’ Therapiwtig y gallwn ffurfio’r fath berthynas gyda fe.

Mae’r ‘arall’ Therapiwtig, o fewn y perthynas, yn rhoi cyfle i herio’n canfyddiadau ffug, a llurguniadau ein hunan ‘gwirioneddol’ a phrofi realiti mewn modd diogel. Gallwn wedyn ddatblygu mewnwelediad a gwerthfawrogi ein hunan ‘gwirioneddol’. Gellir newid yr hunan-gysyniad, a’i alinio gyda’r hunan ‘gwirioneddol’. Y canlyniad yw Tyfiant a Newid Cadarnhaol. Trwy hyn, gallwn symud tuag at y person sy’n gynhenid yn Dda ac yn Effeithiol; y person Hunan-Wireddedig y dylem fod.

Darllen Ymhellach

 

  • Abraham Maslow - Towards a Psychology of Being & Motivation and Personality
  • Carl Rogers - On Personal Power (1977) & A Way of Being (1983)