Navigation



Clinical & Therapeutic Interventions

 Dalier sylw, nid yw'r tudalenau i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae gan Wasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe 16 o flynyddoedd o brofiad mewn darparu lleoliadau gwirioneddol therapiwtig, ac ymyriadau therapiwtig i blant a phobl ifanc sy’n gythryblus neu sy’n peri pryder. Mae gennym ni athroniaeth ddyneiddiol sefydledig sy’n sylfaen i bob ymyriad.

Darperir therapi yn uniongyrchol, mewn sesiynau therapi unigol a grŵp, fel elfen o’r awyrgylch therapiwtig yn yr ymyriadau dydd-i-ddydd gan staff gofal, a thrwy berthynas y staff gyda’r plant a’r bobl ifanc.

Mae gan bob uned therapyddion a staff ymgynghorol, er mwyn llywio eu gwaith a darparu cyngor therapiwtig a chefnogaeth iddynt.

Fel arfer, mae gwaith seicotherapiwtig yn golygu sesiynau un-i-un, oddeutu awr yr un, rhwng dwywaith a phedair gwaith y mis. Penderfynir ar natur y gwaith ar sail y plentyn neu'r person ifanc ei hun - ei allu i gymryd rhan yn y therapi, faint o fewnwelediad sydd ganddo, a'i allu i fynegi ei feddyliau a’i deimladau mwyaf cyfrin. Mae rhai plant a phobl ifanc yn gweithio gorau trwy chwarae neu gelf, mae eraill ar eu mwyaf cyffyrddus wrth siarad.

Mae pob sesiwn seicotherapi unigol yn gyfrinachol. Ni ddatgelir gwybodaeth oni bai fod pryder ynghylch diogelwch neu les y plentyn, neu os mae’n datgelu camdriniaeth. Rhoddir Adroddiadau Cynnydd Cyffredinol i Asiantaethau Lleoli.

Gwneir Asesiadau Seicolegol a Phrofion Seicometrig, safonedig neu ansafonedig, gan Seicolegwyr Clinigol. Mae hyn yn cynnwys asesiad derbyn cynhwysfawr, dadansoddiad swyddogaethol o ymddygiad heriol, ac asesiadau risg arbenigol. Mae profion seicometrig yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, IQ, ADHD, ASD, dealltwriaeth lafar, llosgi bwriadol, dyslecsia, a sgrinio iechyd meddyliol. Gellir paratoi Adroddiadau Seicolegol ar gais, ar gyfer adolygiadau statudol ac adroddiadau llys ar gyfer achosion LAC.

Llunnir Rhaglen Ymddygiad Unigol ar gyfer y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc gan ein staff Seicolegol neu Seicotherapi, ar y cyd gyda Rheolwyr Gofal a Staff Gofal. Mae Strategaethau Adweithiol Rheoli Ymddygiad manwl yn hanfodol er mwyn sicrhau tyfiant emosiynol a newid ymddygiad sydd yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Mae ein staff Seicolegol a Seicotherapi yn cyfrannu hefyd i gyfarfodydd staff a rhaglenni datblygu staff. Mae Ymgynghorwyr a Therapyddion yn cael ei hintegreiddio’n llwyr yn ein dull aml-broffesiynol o weithio.

Cyflogir ein Therapyddion naill ai yn uniongyrchol gan Wasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe, neu fel ymgynghorwyr, neu maen nhw’n gweithio gyda ni fel rhan o’n perthynas tymor hir â Gwasanaethau Clinigol Stiwdio III.