St. David's Education unit
Rhif ESTYN: 669/6014
Agorwyd Uned Addysg Tyddewi ar ei safle presennol, ger Breudeth ar arfordir Sir Benfro, yn 2000. Mae’n gweithredu fel Ysgol Dydd Arbennig Annibynnol ar gyfer uchafswm o 4 disgybl cynradd a 12 disgybl uwchradd gydag Anhwylderau Emosiynol neu Ymddygiadol a/ neu Anabledd Dysgu Ysgafn/ Anhwylder Datblygiadol Treiddiol. Mae’r ysgol yn darparu addysg yn bennaf ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n byw mewn cartrefi Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe Gorllewin Cymru – ASC Tyddewi.
Rheolir Uned Addysg Tyddewi gan y Pennaeth, Dr. Gronwy Davies. Cafodd ei chymeradwyo fel Ysgol Anghenion Arbennig yn dilyn Arolwg ESTYN ym mis Tachwedd 2006. Mae darpariaeth benodol ar wahân ar gyfer Disgyblion Cynradd CA2 a Disgyblion Uwchradd CA3 a CA4.
Mae gan yr ysgol awyrgylch strwythuredig gyda disgwyliadau uchel ar gyfer llwyddiant academaidd a chynnydd mewn ymddygiad. Yn ôl yr Ymweliad Monitro Blynyddol gan ESTYN yn 2007, mae gan yr ysgol:
...perthynas da rhwng athrawon a dysgwyr...ystod o strategaethau addas ar gyfer rheoli ymddygiad heriol.
Mae hefyd
...yn darparu’n dda ar gyfer disgyblion gydag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol.
ac
...mae’n ymateb yn dda, ac yn darparu cwricwlwm addas a chefnogaeth dda ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol [Anhwylder y Sbectrwm Awtistiaeth].
Dilynir y Cwricwlwm Cenedlaethol, gyda ffocws ar y pynciau allweddol, sef mathemateg, gwyddoniaeth a Saesneg. Ar gyfer plant sydd dan anfantais addysgiadol, ac yn aml wedi’u dieithrio o brofiad addysgiadol, mae targedau ac amcanion sy’n eu galluogi i brofi llwyddiant gwirioneddol a theimlad o gyrhaeddiad yn hanfodol, yn arbennig yn y pynciau craidd ac mewn sgiliau dysgu. Er mwyn cyflawni'r amcan hwn, darperir ystod eang o adnoddau, a defnyddir dosbarthiadau bychain gyda chymhareb uchel o athrawon i blant. Ystyrir fod Rhaglenni Addysg Unigol, cynllunio gofalus, a gwahaniaethu’n allweddol i ganlyniadau dysgu cadarnhaol.
Mae mewnbwn rheolaidd gan seicolegydd, yn ogystal â mewnbwn gan athrawon profiadol er mwyn sicrhau fod y Rhaglenni Addysg Unigol yn ‘gymorth dysgu byw’. Ar ben hynny, mae perthynas cydweithio agos gyda staff gofal yn elfen bwysig o ethos a dull gweithredu Uned Addysg Tyddewi.
Ystyrir fod monitro rheolaidd manwl o ganlyniadau a chynnydd yn hanfodol hefyd. Mae adroddiad hunanwerthuso, ar sail cymhariaeth gyda'r Fframwaith Arolygu Cyffredinol, a Chynllun Gwella manwl ar gyfer yr ysgol sy’n amlygu meysydd ar gyfer gwelliannau yn rhan o agwedd hunan-ddadansoddiadol tuag at addysg. Yn y modd hwn, mae’r ysgol yn ymdrechu i gyrraedd y safon uchaf posib.
Mae disgwyliadau uchel o safbwynt safonau addysgiadol ac ymddygiadol. Mae disgyblion yn cael eu herio a'u cefnogi er mwyn cyflawni eu potensial i'r eithaf.
Darperir lifrai ysgol, a disgwylir iddo gael ei wisgo fel modd o sicrhau ‘normaleiddio’, gan leihau gwrthdyniad a meysydd gwrthdaro posib.
Mae’r ysgol yn ganolfan arholiad cofrestredig ar gyfer TGAU yn ogystal â chyfleoedd eraill i ennill cymwysterau allanol yn CA4. Hefyd, cynigir profiad gwaith yn CA4.
Mae cysylltiadau da gyda cholegau lleol hefyd er mwyn i ddisgyblion dros 16 oed dderbyn hyfforddiant galwedigaethol a chyrsiau eraill.
Mae’r athrawon i gyd â’r cymwysterau priodol ar gyfer Addysg Gynradd ac Uwchradd, gyda strwythur da ar gyfer cefnogaeth a goruchwyliaeth. Mae’r Ysgol yn cyhoeddi Prosbectws bob blwyddyn. Mae copïau ar gael gan:
Dr. Gronwy Davies, Rheolwr AddysgUned Addysg Tyddewi
Tŷ Penfro
Parc Busnes Breudeth
Hwlffordd
Sir Benfro
SA62 6NP
Ffôn: 01437 721234
e-bost: Gron.Davies@the-marlowe.co.uk


