Quality Monitoring
Mae Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe wedi ymrwymo i sicrhau’r ansawdd gorau wrth ddarparu ei wasanaethau. Er mwyn cyflawni hyn, mae proses rheolaidd o werthuso ac adolygu, yn fewnol ac yn allanol.
Arolygir pob cartref preswyl gan OFSTED yn Sir Gaerloyw a chan AGGCC yng Nghymru. Adolygir adroddiadau arolwg yn ofalus gan reolwyr a staff, a gweithredir unrhyw ofynion neu argymhellion. Cefnogir y broses arolygu gan adolygiad misol annibynnol trylwyr yn unol â Rheoliad 33 o Reoliadau Cartrefi Plant 2001. Anfonir yr adroddiadau hyn, yn ogystal ag unrhyw adolygiadau Rheoliad 34, yn fisol at gynrychiolwyr Asiantaethau Lleoli.
Ar ben hynny, cynhelir adolygiad safonau bob chwe mis. Mae hyn yn defnyddio holiadur manwl a anfonir at gynrychiolwyr Asiantaethau Lleoli. Dadansoddir yr holl ymatebion yn ofalus, gwneir argymhellion, ac fe’u gweithredir er mwyn gwella’r gwasanaeth.
Hefyd, lluniwyd holiadur ‘Ansawdd Bywyd’ er mwyn i ni allu derbyn adborth gwerthfawr gan ein plant a phobl ifanc. Mae hyn yn ein galluogi nid yn unig i ddadansoddi eu profiad o’n gwasanaeth yn rheolaidd, ond hefyd i ddefnyddio’r wybodaeth i asesu canlyniadau.
Mae ein staff hefyd yn rhoi adborth i ni. Mae llwyddiant ein gwasanaeth yn dibynnu ar eu sgiliau a’u cymhelliad. Mae’n hanfodol gwrando arnynt.
Mae gan ein hysgolion hefyd systemau arolygu mewnol ac allanol. Maent yn cael eu harolygu gan OFSTED yn Lloegr, a gan ESTYN yng Nghymru.
Fel sefydliad, yr ydym yn croesawu adborth, gan gynnwys cwynion. Anogir plant a phobl ifanc i ddweud eu dweud, heb ofni gwrthgyhuddiad. Yn yr un modd, anogir teuluoedd a chynrychiolwyr Asiantaethau Lleoli i wneud sylwadau, ac i gwyno os bydd angen.
Mae copïau o Adroddiadau Arolwg, adroddiadau Rheoliad 33, ac adborth arall a dderbynnir ar gael ar gais i Asiantaethau sy’n ystyried lleoli plentyn neu berson ifanc.
