Navigation



Measuring Outcomes

 Dalier sylw, nid yw'r tudalenau i gyd ar gael yn Gymraeg.

Er mwyn sicrhau'r gwerth gorau o bob lleoliad, yn ogystal â sicrhau fod pob plentyn a pherson ifanc yn gwneud cynnydd, mesurir canlyniadau ym meysydd pwysicaf eu bywydau ar sail reolaidd. Mae hyn yn broses sy'n cynnwys nid yn unig y bobl broffesiynol allweddol ond hefyd y plentyn neu berson ifanc a'i deulu (lle bo'n addas). Blaenorir anawsterau, cryfderau, ac anghenion pob person ifanc. Mae’r Canllaw Mesuro Canlyniadau’n cynnwys cwestiynau a luniwyd i helpu adnabod y ‘Dangosyddion Canlyniad Personol’ mwyaf addas. Ychwanegir at y rhestr hon fel bo angen, gan ddibynnu ar yr unigolyn a’i amgylchiadau. Mae’r ‘Dangosyddion Canlyniad Personol’ wedyn yn cael eu mesuro am gynnydd ar amserlen a gytunir ymlaen llaw. Ar ben hynny, mae cynllun wrth gefn ar gyfer pob Dangosydd Canlyniad Personol.

Mae meysydd Dangosyddion Canlyniad Personol yn cynnwys:

  • Bod yn Iach
    (gan gynnwys taldra, pwysau, hylendid personol, smygu, defnyddio sylweddau, iechyd seicolegol, diet, meddyginiaeth, ymarfer corfforol).
  • Aros yn Ddiogel
    (gan gynnwys cwyno, bwlian, rhedeg i ffwrdd, trais a bygythiadau troseddol, cyfyngiadau, delio â rhwystredigaeth, a hunan-niwed).
  • Mwynhau a Chyflawni
    (addysg, dilyn eu Cynllun Addysg Personol, hobïau, chwaraeon, hamdden, perthnasau ac uchelgeisiau).
  • Gwneud Cyfraniad Cadarnhaol
    (defnyddio cyfleusterau lleol, ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol a diwylliannol, llefaru ar ran eraill, cymryd rheolaeth gadarnhaol o’u bywydau, ddim yn bwlian nag yn camwahaniaethu).
  • Ennill Lles Economaidd
    (agwedd cadarnhaol, addysg/ gwaith/ dyfodol, ymddangosiad smart, ac uchelgais).

Ceir mwy o fanylion dull Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe o Fesuro Canlyniadau gan Steve Miller.