Investors In People
Mae Safonau Buddsoddwyr mewn Pobl yn ganllaw gwella busnes a luniwyd er mwyn gwella perfformiad unrhyw sefydliad trwy ei staff. Fe’i datblygwyd yn wreiddiol ym 1990 gan bartneriaeth o sefydliadau busnes a chenedlaethol blaenllaw. Mae’r safon yn helpu sefydliadau i wella eu perfformiad, a gwireddu eu hamcanion trwy reoli a datblygu eu pobl. Fe’i seilir ar dair egwyddor allweddol i wella perfformiad.
- Cynllunio - Datblygu Strategaethau
- Gwneud - Gweithredu
- Adolygu - Gwerthuso’r Effaith
Mae Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe wedi ymrwymo i werthuso ei berfformiad yn gyson, yn ogystal â macsimeiddio datblygiad ei staff. Enillodd ASC Tyddewi ei Wobr Buddsoddwyr mewn Pobl yn 2000.
