ICHA
Mae gan y Gymdeithas Cartrefi Plant Annibynnol dros 60 o aelodau, i gyd yn darparu gwasanaethau ac adnoddau ar gyfer gofal plant. Mae’n Gymdeithas ‘nid-am-elw’ sy’n cynrychioli pobl broffesiynol sydd wedi dewis gweithio yn y Sector Annibynnol. Ar hyn o bryd, mae’n cynrychioli dros hanner y llefydd annibynnol sydd ar gael yng Nghymru a Lloegr.
Mae ei hamcanion yn cynnwys sicrhau fod llais y sector annibynnol, y staff sy’n gweithio ynddo, a’r plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal mewn Cartrefi Plant Annibynnol yn cael ei glywed gan Lywodraeth Ganolog a Llywodraeth Leol, gan Gonsortia, a chan Reoleiddwyr. Yn benodol, mae’n ceisio cynrychioli aelodau a’r bobl sy’n derbyn gofal ganddynt ar bynciau pwysicaf y dydd, ar ansawdd a deilliannau gofal plant ar gyfer rhai o’r plant mwyaf agored i niwed yn y DU. Mae hefyd yn darparu rhwydwaith o gefnogaeth a chyngor i’w haelodau, gan rannu gwybodaeth ac arbenigedd rhai o’r gweithwyr gofal plant proffesiynol mwyaf profiadol ac uchel eu parch a geir unrhyw le.
