Navigation



Walton Lodge, a St. David's Home

 Dalier sylw, nid yw'r tudalenau i gyd ar gael yn Gymraeg.
Walton Lodge, a St. David's HomeWalton Lodge - a St. David's Home

Mae Walton Lodge yn gartref therapiwtig i ferched yn bennaf, o 11 i 18 oed, y rhan fwyaf ohonynt yn ymddwyn mewn modd sy'n cymryd risg neu sy'n eu gadael yn agored i niwed. Mae llawer o’r trigolion wedi mynd trwy gyfnodau o gael eu cam-drin neu eu hecsploetio, rhai ohonynt yn y diwydiant rhyw. Mae llawer hefyd wedi cael anawsterau teuluol eithafol, neu wedi rhedeg i ffwrdd, wedi bod mewn lleoliad a fethodd, wedi cael anawsterau ymddygiadol, neu wedi camddefnyddio sylweddau. Mae llawer yn dangos patrymau ymddygiad, hwyliau, neu arddull perthynas cymdeithasol sy’n gyson ag Anhwylder Ymlyniad. Mae’r rhan fwyaf hefyd wedi cael hanes addysg afreolaidd iawn.

Dros y blynyddoedd, mae Walton Lodge wedi datblygu lefel o sensitifrwydd ac arbenigedd mewn helpu merched a menywod ifainc (yn ogystal â rhai bechgyn) i oresgyn anawsterau’r gorffennol, a symud ymlaen yn gadarnhaol gyda’u bywydau. Mae’r rhan fwyaf o leoliadau yn Walton Lodge yn dymor canolig i dymor hir. Cynigir hefyd asesu a pharatoi ar gyfer lleoliadau teuluol; a chafwyd llwyddiant sylweddol yn y maes hwn yn y gorffennol. Yn yr un modd, mae Walton Lodge wedi gweithio’n llwyddiannus iawn gyda phobl ifanc sy’n gadael Llety Diogel.

Rheolir Walton Lodge gan Shane Morrissey - ymarferydd profiadol iawn gyda dull magwrol diffuant o weithio gyda’r fath o gleientiaid sydd gan Walton Lodge. Mae’r dull gweithredu hwn wedi’i ledaenu i’r tîm cyfan, sy’n rhannu’r un ymrwymiad â Shane i ddarparu awyrgylch therapiwtig, ac i ymyrraeth uniongyrchol addas i helpu'r plant a'r bobl ifanc ddatblygu a thyfu'n gadarnhaol.

Mae Walton Lodge yn agos iawn at arfordir Sir Benfro, nid nepell o dref Hwlffordd. Mae’n cynnig preifatrwydd, heb fod yn anghysbell. Mae’n dro byr ar droed i bentref bach a’r traeth. Mae’r ardal leol yn cynnig digonedd o gyfleoedd i blant a phobl ifanc elwa o’r awyrgylch lleol, cymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol, a datblygu perthnasoedd newydd a llwyddiannus gyda phobl eraill.

Mae’r tŷ’n cynnig awyrgylch cynnes a chyffyrddus y gall y menywod ifanc sy’n byw yno alw’n gartref iddynt. Mae gan bob un ohonynt ei hystafell wely helaeth ei hunan, yn ogystal â mynediad i ddigon o gyfleusterau cymunedol. Mae gan Walton Lodge ei ardd enfawr ei hun.

Mae’r tîm yn Walton Lodge yn gweithio’n agos gyda’r therapyddion a Seicolegydd Ymgynghorol i sicrhau fod cynlluniau lleoliad yn adlewyrchu llwybr therapiwtig cytunedig tuag at adferiad. Adeiladir ar yr ymyriadau dydd-i-ddydd yn Walton Lodge trwy therapi a chynghori unigol rheolaidd. Mae ymyriadau penodol yn cynnwys gweithio gydag anhwylderau ymlyniad difrifol, anhwylderau straen ôl-drawmatig, ac atal datblygiad Anhwylderau Personoliaeth Ffiniol. Mae Walton Lodge wedi cael canlyniadau da iawn gyda menywod ifainc gyda hanes o hunan-niwed ac ymddygiad troseddol, yn ogystal â gyda menywod sy’n agored i niwed rhywiol.

Mae llwyddiant addysgiadol yn flaenoriaeth bwysig i Walton Lodge. Mae trefn ysgol yn cael effaith normaleiddio hanfodol ar bobl ifanc sydd wedi cael bywydau aflonydd ac anhrefnus. Ar ben hynny, mae cyrhaeddiad addysgiadol gwirioneddol yn cael effaith gadarnhaol iawn ar adfer hunan-barch difrodedig. Ar gyfer plant hŷn, mae cysylltiadau da iawn â’r colegau lleol. Hefyd, mae gan staff y sgiliau sydd eu hangen er mwyn helpu pobl ifanc i symud tuag at oedolaeth a'r annibyniaeth uchaf.

Yn yr un modd, mae Walton Lodge yn ystyried fod pwyslais ar ofal sylfaenol da, a mynediad i ofal iechyd ac addysg iechyd o werth enfawr wrth reoleiddio bywydau’r menywod ifanc a gwella eu hunanwerth.

Mae Hyfforddiant Staff yn Walton Lodge yn canolbwyntio ar yr elfennau hanfodol o weithio gyda phobl ifanc yn ogystal ag ar Anhwylderau Ymlyniad a phroblemau Iechyd Meddyliol. Mae tîm staff sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac sydd ag argymhelliad uchel yn hanfodol er mwyn gwireddu uchelgeisiau’r uned a chyflawni’r amcanion a amlygir yn y Datganiad Pwrpas a Swyddogaeth. Mae 100% o staff sydd wedi gweithio yn Walton Lodge am fwy na chwe mis yn dilyn, neu wedi cwpla, CGC Lefel III.

Walton Lodge - Image gallery