Navigation



Oaklands, a St. David's Home

 Dalier sylw, nid yw'r tudalenau i gyd ar gael yn Gymraeg.
Oaklands, a St. David's HomeOaklands - a St. David's Home

Mae ‘Oaklands’ yn gartref pedair ystafell wely sy’n darparu gofal therapiwtig ar gyfer merched o 11 i 18 oed gydag anawsterau seicolegol, emosiynol, ac ymddygiadol. Mae gan lawer ohonynt hefyd anableddau datblygiadol a dysgu, gan gynnwys anhwylder datblygiadol treiddiol megis Awtistiaeth a Syndrom Asperger. Mae ‘Oaklands’ wedi gweithio hefyd gyda merched gyda hanes o broblemau iechyd meddyliol, gan gynnwys iselder ysbryd a hunan-niwed.

Rheolir ‘Oaklands’ gan Jenny Berrigan. Mae gan Jenny brofiad helaeth o ofalu am bobl ifanc cythryblus ac aflonyddus, fel gweithiwr ac fel rheolwr. Mae tîm staff ‘Oaklands’ wedi ymrwymo i’r bobl ifanc ac i’r gred y gallant hwyluso newid gwirioneddol a datblygiad yn y bobl ifanc.

Lleolir ‘Oaklands’ ychydig filltiroedd o dref Hwlffordd. Mae’n dŷ mawr, helaeth, gyda llety dros ddwy lawr. Mae gan bob person ifanc ei ystafell wely helaeth ei hunan, wedi’i haddurno a’i dodrefnu gyda mewnbwn a syniadau'r person ifanc. Mae digonedd o le cymunedol i alluogi’r bobl ifanc i rannu cwmni ei gilydd neu ddod o hyd i breifatrwydd os maent eisiau, beth bynnag sydd orau ganddynt ar y pryd. Y mae lolfa, ystafell deledu, ystafell wydr (sy’n cael ei defnyddio ar gyfer celf a chrefft), ac ystafell fwyta.

Mae ‘Oaklands’ hefyd wedi cael ei addasu i ymdopi ag anawsterau symudoledd gydag ystafelloedd ymolchi arbennig ac ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod. Fodd bynnag, mae’r uned wedi cadw teimlad ac awyrgylch cartrefol. Mae tiroedd ‘Oaklands’ yn helaeth, gyda darpariaeth dda o gemau ac offer, gan gynnwys trampolîn.

Anogir pobl ifanc yn ‘Oaklands’ i ddatblygu hyder, hunan-barch, a hunanfynegiant. Fe’u hanogir a’u cefnogir i wneud cyfeillion yn y gymuned a datblygu diddordebau y tu allan i’r cartref. Gallant ddod â ffrindiau a theulu i ymweld ag ‘Oaklands’ gyda’r hyder ei fod yn lle croesawgar a chyfeillgar.

Mae ‘Oaklands’ yn darparu rhaglen strwythuredig sy’n gallu rheoli ymddygiad anodd, tra ei fod yn cadw’r pwyslais ar gwrdd ag anghenion yr unigolion. Mae gan bob person ifanc fynediad i therapi addas gyda therapydd hollol gymwys. Mae Jenny a’i thîm yn cael cyngor gan Seicolegydd, David Walker, sy’n darparu mewnbwn arbenigol allweddol i Raglenni Rheoli Ymddygiad. Gellir trefnu asesiad a goruchwyliaeth seiciatregol os oes angen.

Mae gan ‘Oaklands’ dîm o staff sydd yn sefydlog, profiadol, wedi’u hyfforddi a’u harwain yn dda, ac sydd wedi ymrwymo i'w gwaith ac i bobl ifanc unigol. Cefnogir rhaglenni gofal gyda lefelau staff uchel a staff sydd yno i’w deffro gyda’r nos lle bo angen.

Mae ‘Oaklands’ yn uned un rhyw. O ganlyniad, mae’n addas iawn ar gyfer rheoli pobl ifanc sy’n agored iawn i niwed rhywiol, naill ai oherwydd camdriniaeth neu brofiadau ecsbloetiol yn y gorffennol, neu ynteu oherwydd anabledd dysgu.

Dros y blynyddoedd, mae ‘Oaklands’ wedi cael canlyniadau trawiadol, ac mae'r Adroddiadau Arolygu wedi bod yn gadarnhaol yn gyson. Mae pobl ifanc eu hunain, yn ogystal â’u teuluoedd a’r Asiantaethau Lleoli wedi adrodd gwelliannau sylweddol yn y rhan fwyaf o feysydd allweddol bywyd y person ifanc. Ar ben hynny, mae Asiantaethau Lleoli wedi bod yn gyson eu canmoliaeth am systemau cyfathrebu ‘Oaklands’, ac ansawdd adroddiadau ysgrifenedig.

Ar gyfer plant hŷn, mae cysylltiadau da iawn â’r colegau lleol. Hefyd, mae gan staff y sgiliau sydd eu hangen er mwyn helpu pobl ifanc i symud tuag at oedolaeth a'r annibyniaeth uchaf.

Ar y cyfan, mae Oaklands yn canolbwyntio ar leoliadau tymor canolig i dymor hir. Fodd bynnag, mae hefyd yn cynnig asesiadau cychwynnol cynhwysfawr, a’r gallu i symud pobl ifanc ymlaen i leoliad teuluol neu annibyniaeth gyda chefnogaeth.

Oaklands - Image gallery