Navigation



Bryn-y-Mor, a St. David's Home

 Dalier sylw, nid yw'r tudalenau i gyd ar gael yn Gymraeg.
Bryn-y-Mor, a St. David's HomeBryn-y-Mor - a St. David's Home

Mae ‘Bryn-y-Mor’ yn gartref pedair ystafell wely sy’n darparu gofal therapiwtig i fechgyn. Yr ystod oedran yw o 8 – 18 oed, (gyda gwahaniaeth oedran o ddim mwy na phedair blynedd). Yn bennaf, mae’n cynnig lleoliad tymor canol i dymor hir i fechgyn gydag Anhwylderau emosiynol neu ymddygiadol a/ neu Anhwylderau Datblygiadol Treiddiol (megis Awtistiaeth neu Syndrom Asperger) a/ neu Anabledd Dysgu Ysgafn i Ganolig. Hefyd, mae Bryn-y-Mor yn cynnig rhaglenni ymyrraeth penodol i fynd i’r afael ag ymddygiad troseddol ac i atal atgwympo.

Rheolir 'Bryn-y-Mor’ gan Sue Williams BA (Anrh), (Gwaith Cymdeithasol). Mae Sue yn rheolwraig brofiadol gyda sgiliau a diddordeb penodol ym maes pobl ifanc sydd ag ystod o anawsterau ymddygiad, gan gynnwys y rhai gydag anghenion dibyniaeth uchel.

Lleolir 'Bryn-y-Mor' nid nepell o dref Hwlffordd. Mae’n dŷ dau lawr mewn gerddi helaeth. Mae wedi’i gyfarparu’n dda iawn, gyda chyfleusterau fydd o ddiddordeb i’r rhan fwyaf o fechgyn, gan gynnwys amrywiaeth o offer chwaraeon ac offer gweithgarwch awyr agored. Mae’r tŷ wedi’i ddodrefnu a’i addurno i sicrhau awyrgylch cartrefol, cynnes, ac ansefydliadol. Mae hyn yn elfen hanfodol o’r amgylchedd therapiwtig, gan ganiatáu i’r bechgyn gael profiad magwrol. Mae’r bechgyn i gyd yn cael ystafell wely helaeth unigol, ac yn cael defnyddio nifer o ystafelloedd cymunedol mawr. Mae Sue hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar anghenion iechyd y bechgyn, gyda phrydau da, cytbwys, wedi’u coginio yn y tŷ, digonedd o ymarfer, a chwsg i gyd yn elfennau allweddol o ddatblygiad corfforol plant a phobl yn eu harddegau. Ar ben hynny, mae 'Bryn-y-Mor' yn ymdrechu i sicrhau fod y bechgyn yn cael y strwythur a’r cyfleoedd cymdeithasoli sydd eu hangen arnynt.

Mae Sue a'i thîm yn sicrhau fod y bechgyn yn cael mynediad i weithgareddau cymdeithasol cadarnhaol o fewn a'r tu allan i 'Fryn-y-Mor', ac yn eu hannog i gydio yn y cyfleoedd hyn. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol cynhyrchiol yn creu rhwydwaith o ddylanwadau cadarnhaol cyfoedion, mae’n gwrthdynnu o weithgareddau negyddol, ac mae’n cael effaith llesol yn nhermau hunan-barch.

Ym 'Mryn-y-Mor', mae disgwyliadau uchel o safbwynt ymddygiad, a dealltwriaeth fod pobl ifanc cythryblus yn gwneud camgymeriadau. Mae llwyddiant unrhyw leoliad yn seiliedig ar gysondeb ac ymrwymiad i’r person ifanc fel unigolyn. Fel ym mhob Uned Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe, mae gan 'Bryn-y-Mor' lefel isel iawn o Leoliadau sy’n Methu.

Mae 'Bryn-y-Mor' hefyd yn rhoi gwerth uchel ar gefnogi pobl ifanc i gael llwyddiant addysgiadol. Mae Sue a’i thîm yn rhoi cefnogaeth weithgar i Gynllun Addysg Personol bob person ifanc, lle bynnag mae'n cael ei addysg - boed yn Uned Addysg Dewi Sant, mewn ysgol gyfun leol, neu mewn coleg.

Dros nifer o flynyddoedd, mae 'Bryn-y-Mor' wedi cael canlyniadau cadarnhaol sylweddol o safbwynt pobl ifanc yn symud ymlaen yn llwyddiannus naill ai yn ôl i’w teuluoedd gwreiddiol, neu i deulu maeth, neu i fywyd annibynnol. Mae’r llwyddiannau hyn wedi cael eu nodi gan Asiantaethau Lleoli, rhieni, a’r bobl ifanc eu hunain.

Bryn-y-Mor - Image gallery