Case Study B - Craig
‘Roedd Craig yn 15 mlwydd oed, bachgen gydag ychydig neu ddim profiad y tu allan i’w gartref difreintiedig - yn ffisegol ac yn emosiynol - yng nghanol y ddinas; ac nid hyn oedd ei brofiad cyntaf o ofal preswyl. Fodd bynnag, cafodd ei ddrysu’n lan ar ddechrau ei leoliad gwledig newydd ger y môr. Ceisiodd guddio hyn trwy swagro’n drefol a thrwy ymosodedd mud yn ogystal â’i ymddangosiad ‘hwdi’. Beth bynnag, ‘roedd y sioc gychwynnol yn amlwg wrth iddo syllu trwy’r ffenest, yn edrych dros gaeau gwyrdd, heb ddim strydoedd neu adeiladau tal.
Nid oedd y system gofal wedi bod yn dda i Craig – ac nid oedd e wedi bod yn dda i’r system ‘chwaith. ‘Roedd e wedi bod trwy gyfres o gartrefi maeth a chartrefi plant, bob un gyda chanlyniad tebyg - ei eithrio’n dilyn bygythiadau, difrod, trais, a bygythion gwatwarus a oedd, iddo fe, yn ffordd o amddiffyn ei hunan. Nid oedd rheswm iddo ddisgwyl canlyniad gwahanol o’r lleoliad hwn. Byddai fe’n bygwth staff, a byddai staff pryderus yn ymateb gyda gwrth-fygythiadau. Byddai wedyn yn taflu cadair neu daflu dwrn, a byddai staff yn ei ffrwyno – camp oedd yn aml angen tri neu bedwar i’w gyflawni'n ddiogel ac yn llwyddiannus. ‘Roedd ei faint a'i gryfder sylweddol yn gefnogaeth ddefnyddiol i bersonoliaeth oedd eisoes wedi’i dieithrio. ‘Roedd gan y cylch hwn – bywyd Craig am dros dair blynedd – fantais wrth fod yn rhagweladwy, ac wrth gadw’r byd ar bellter emosiynol diogel. Fodd bynnag, ar ôl yr ychydig oriau cyntaf, nid oedd mor sicr y byddai’r lleoliad hwn yr un peth â’r lleill. Ymddangosodd yr oedd tawelwch yr amgylchedd a dull tawel pwrpasol y staff o siarad ag e wedi agor lle i Craig. Yn betrusgar ar y dechrau, camodd i’r lle a dechrau rhannu nid ei ddicter yn unig ond rhai o’i achosion. Rhwng y cyfnodau o ymosodedd a oedd yn dal yn rheolaidd, daeth cyfaddefiadau llawn risg. “Ei Fam” oedd e – “paham ei bod wedi dewis y dyn newydd yn hytrach nag e? - ei mab, cnawd ei chnawd; ei gwr newydd?" - dyn a’i bwriodd yn amlach na pheidio!
‘Roedd y bachgen hwn (ac er gwaethaf ei faint a’i ddoethineb stryd, dyna oedd e o hyd) wedi'i ddrysu, wedi’i ffwndro, ac yn brifo. ‘Roedd e am ddiogelu ei fam, i’w charu, i ofalu amdani, i ddial ar y dyn oedd wedi’i brifo hi a dod rhyngddo fe a hi. Ond anaml iawn y mae’r fath emosiynau mor syml neu hyd yn oed mor gyson. ‘Roedd Craig hefyd yn casáu ei fam. Yn anad dim, ‘roedd rhwystredigaeth a theimlad o lwyr ddiffyg grym dros ei fywyd ei hunan. Ac o’i herwydd hi, ‘roedd e mewn lle dieithr gyda phobl ddieithr a dim gobaith o ddylanwadu ar unrhyw beth. Deall ei ddiffyg grym fel achos dicter Craig, a'i angen i fwrw allan oedd y dechrau ar gyfer y staff. 'Roedd y ffaith yr oedd yn mynnu "ffonio ei ff***ing Gweithiwr Cymdeithasol" ac i rywun "ei gael e allan o'r twll yma" yn gwneud synnwyr. Cadwodd y staff eu ffocws ar achos y cythrwfl yn amyneddgar. Hyd yn oed pan fygythiodd trywanu aelod o’r staff, yr ymateb angenrheidiol oedd aros yn dawel ac yn dyner yn hytrach nag ufuddhau i’r ceisiadau afresymol niferus neu gydgynllwynio gydag ymosodedd neu ymddygiad annerbyniol. I’r gwrthwyneb, ‘roedd yn hanfodol sicrhau fod y staff wrth ei ochr, yn hytrach na mynd i wrthdaro na fyddai neb yn ei ennill.
Yn ystod un o’r ffrwydradau hyn o ddicter a bygythiadau daeth yr awgrymiadau cyntaf o’r Craig go iawn, agored i niwed, i’r amlwg. Wrth droi i ffwrdd o’r gwrthdaro tuag at y ffenest, i guddio ei ddagrau gymaint â dim, gwaeddodd “Ble’r mae’r Ddinas?”, “Ble’r mae’r Ddinas?”, ac y tro hwn, fe fwriodd y cadeiriau yn hytrach nag eu taflu.
Mewn bywyd go iawn nid yw un eiliad o ryddhad ddim yn dadwneud oes o gam-drin emosiynol ac esgeulustod . ‘Roedd y staff yn dal i’w cael eu hunain ar ochr anghywir dicter Craig. Ond bellach, pan oedd diffoddwyr tân yn cael eu codi fel arf posib, fe’u rhoddwyd i lawr eto pan gynigiwyd ymateb emosiynol yn hytrach nag ymateb corfforol.
Esboniwyd yr angen i osgoi ffrwyno corfforol i Craig. Iddo e, ‘roedd wedi dod yn fodd o gael rhyddhad. Cyhyd ag yr oedd staff yn ymyrryd yn gorfforol, nid oedd yn rhaid iddo dderbyn cyfrifoldeb am ei ymddygiad ei hunan, ac nid oedd unrhyw obaith y byddai’n meistroli unrhyw reolaeth fewnol. Yn y diwedd, datblygodd perthynas diffuant rhwng Craig a’r Rheolwr Cofrestredig. O ganlyniad, cyfeiriwyd llawer o’i ddicter ati hi. Er i’r bygythiadau trais leihau, ‘roedd y dicter yno o hyd, ond yr oedd yn cael ei gyfeirio at eiddo yn hytrach nag at bobl.
Ac felly siaradodd Craig am ei brofiadau, gan gynnwys cael ei ffrwyno, ei arestio, a’i eithrio. ‘Roedd wedi teimlo nad oedd ganddo ddewis ond i ymddwyn fel yr oedd e wedi gwneud. Ond yma, lle gwnaed dewis i beidio â'i ffrwyno, dechreuodd weld os oedd eraill yn gallu ymateb heb ymosodedd, efallai y gallai fe wneud yr un peth. Nid fod hyn bob tro’n hawdd. Byddai’n berwi gyda llid, a oedd prin dan reolaeth, os oedd y rheolwr ar y ffôn ac felly’n methu â’i weld yn syth. Prin dan reolaeth, efallai; ond dan reolaeth o leiaf.
‘Roedd y cysyniad o ddewis yn allweddol i gynnydd Craig. Gydag amser, dechreuodd ddeall beth oedd dewis a hunan-benderfyniad yn ei olygu iddo fe ac i bobl o’i gwmpas. Fe allasai’r staff wedi’i ffrwyno. ‘Roedd yn cydnabod yr oedd llawer o achlysuron lle byddai cyfiawnhad iddyn nhw wneud. Fodd bynnag, ‘roedden nhw wedi dewis peidio; gan ymddiried yn hytrach y byddai fe’n gallu dod o hyd i’r adnoddau mewnol i ddelio a’i deimladau. ‘Roedd y teimlad yr oedd wedi cael ei ymddiried a'i barchu yn ganolog i dorri'r cylch cythreulig o drais, ymosodedd, ffrwyno, a throseddoli. Yn y diwedd, ‘roedd Craig yn gallu deall hyn. ‘Roedd e’n gallu mynegi ar lafar faint yr oedd wedi dysgu o’r profiad. ‘Roedd e hefyd yn gallu defnyddio ei fewnwelediadau i'w ymddygiad a’i deimladau ei hunan i ail-ystyried dewisiadau ei fam.
Er nad oedd yn eu hoffi, ac er iddo ddal i frifo, ‘roedd yn gallu deall fod pobl yn dewis pethau nad ydynt o les iddyn nhw. ‘Roedd yn gallu deall y manteision personol o dderbyn parch ac ymddiried eraill, a’u dychwelyd. Yn y diwedd, yr hyn a wnaeth y gwahaniaeth oedd mynegi ei deimladau yn hytrach na gweithredu arnynt.
‘Roedd Craig wedi profi’r byd fel lle nad oedd ag unrhyw barch iddo fe neu ei anghenion. Heb ymosodedd, ‘roedd e wedi teimlo na fyddai neb yn sylwi arno o gwbl. Pan adawodd Tyddewi, ‘roedd wedi dod i sylweddoli ei fod o werth. ‘Roedd parch pobl eraill wedi rhoi hunan-barch iddo fe, yn ogystal â’r gred yr oedd yn gallu gwneud dewisiadau cadarnhaol ynghylch cyfeiriad ei fywyd ei hunan.
Am resymau cyfrinachedd, ac o barch at breifatrwydd ac urddas y plant a’r bobl ifanc, newidiwyd enwau ac ychydig o fan fanylion eraill i guddio hunaniaeth unigolion. Fodd bynnag, o safbwynt yr holl fanylion pwysig, mae’r astudiaethau achos hyn yn grynodeb gwir o’r hyn a ddigwyddodd. Lluniwyd unrhyw ddelweddau am effaith celfydd yn unig gan Wasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe Cyf., ac mae i gyd yn © hawlfraint y perchennog.

