Navigation



Mission Statement

 Dalier sylw, nid yw'r tudalenau i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe wedi ymrwymo: -

  • I ddarparu ystod o wasanaethau gofal preswyl annibynnol, therapi ac addysgiadol, yn seiliedig ar angen, ar gyfer plant a phobl ifanc: gan weithredu fel asiantaeth arbenigol ar gyfer Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, Awdurdodau Addysg, ac Awdurdodau Iechyd ar draws y DU, ac o wledydd eraill.
  • I sicrhau fod ein gwasanaethau a’n polisïau yn gweithredu o fewn y fframwaith deddfwriaethol sydd wedi’i gosod er mwyn diogelu plant a phobl ifanc mewn gofal cyhoeddus. I sicrhau perthynas gwaith agos a chydweithredol gydag Awdurdodau Cofrestru ac Arolygu i’r perwyl hwn.
  • I sicrhau fod y gwasanaethau a ddarperir yn adlewyrchu’n Datganiad Cyfleoedd Cyfartal a’n Hathroniaeth Ddyneiddiol. Ymhellach na hynny, i sicrhau fod y plant a’r bobl ifanc yr ydym yn gofalu amdanynt, ein cydweithwyr, a’r cyhoedd, yn cael eu trin gyda pharch, urddas, a heb ragfarn yn unol â’r safonau proffesiynol uchaf. Yn yr un modd, i sicrhau, wrth i ni ymwneud a’n cydweithwyr, eu bod yn cael eu trin gyda’r un parch ac urddas, a heb ragfarn.
  • I ddarparu diogelwch, ac awyrgylch saff a magwrol ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yr ydym yn gofalu amdanynt; yn arbennig o ystyried y ffaith eu bod ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
  • I sicrhau ein bod yn rhoi gwerth am arian i’n cwsmeriaid a’n cleientiaid, ac yn cydnabod yr angen i ddefnyddio’r holl adnoddau yn ddoeth ac yn effeithiol.
  • I fod yn gyflogwr da, gan werthfawrogi’r cyfraniad allweddol a wneir gan yr holl staff, a chefnogi eu cynnydd trwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu iddynt. I ddarparu cyfleoedd ac anogaeth ar gyfer cydfargeinio a diogelu eu hawliau a’u diogelwch trwy gynrychiolaeth briodol.
  • I ddal i ymdrechu dros ragoriaeth ym mhopeth, yn arbennig yn ein hymwneud uniongyrchol â phlant a phobl ifanc.
  • I sicrhau fod y cwmni a’i holl staff, rheolwyr, a chyfarwyddwyr yn agored i newid, ac yn fodlon gweithredu ar feirniadaeth adeiladol. Yn yr un modd, i sicrhau fod unrhyw gŵyn (boed yn allanol neu’n fewnol) yn cael ei thrin yn gwrtais, yn broffesiynol, ac yn gadarnhaol, a bod gwersi’n cael eu dysgu lle bo angen.