Navigation



Equal Opportunities

 Dalier sylw, nid yw'r tudalenau i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn cymryd safbwynt gweithgar sy'n hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bawb, yn ogystal â gwrthwynebu camwahaniaethu ar sail rhyw, tueddfryd hil, dosbarth cymdeithasol, anabledd, oedran, neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall.

Mae Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â hunaniaeth gyda phlant a phobl ifanc mewn modd cadarnhaol. Gwneir pob ymdrech i sicrhau amrywiaeth o safbwynt staffio, gan ddarparu delweddau cadarnhaol i bobl ifanc o gefndiroedd hiliol ac ethnig amrywiol.

Mae Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe wedi ymrwymo i sicrhau cyfleoedd cyfartal wrth gyflogi staff.

Mae copi o Bolisi Cyfleoedd Cyfartal Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Marlowe, yn ogystal â pholisïau perthnasol eraill ym maes Adnoddau Dynol, ar gael ar gais i asiantaethau ac unigolion dilys.